Rhif y ddeiseb: P-05-1016

Teitl y ddeiseb: Dylid ymestyn y Grant Cartrefi Gwyrdd newydd i Gymru

Testun y ddeiseb: Mae'r Canghellor wedi cyhoeddi Grant Cartrefi Gwyrdd newydd i roi talebau gwerth hyd at £5,000 ar gyfer gwella effeithlonrwydd ynni cartrefi yn Lloegr. Dylai Llywodraeth Cymru wneud yr un peth er mwyn gwella’r stoc dai, diogelu swyddi Cymru, a chyfrannu at ddatrys materion amgylcheddol yng Nghymru.

 

 


1.  Cefndir

Cyhoeddodd Canghellor y Trysorlys – Rishi Sunak AS – grant cartrefi gwyrdd newydd gwerth £2 biliwn i Senedd y DU ar 8 Gorffennaf 2020 fel rhan o ddatganiad yr haf, A Plan for Jobs.

Yn ei ddatganiad, dywedodd y Canghellor:

From September, homeowners and landlords will be able to apply for vouchers to make their homes more energy efficient and create local jobs. The grants will cover at least two thirds of the cost—up to £5,000 per household—and for low-income households we will go even further, with vouchers covering the full cost, up to £10,000.

Darparwyd manylion pellach ynghylch y cynllun yn ddiweddarach gan Lywodraeth y DU. Gellir defnyddio'r grant – sydd ar ffurf taleb – i dalu am ystod o fesurau effeithlonrwydd ynni, yn amodol ar feini prawf cymhwysedd penodol.

Rhaid defnyddio'r daleb i osod un 'prif fesur' o restr sy'n cynnwys inswleiddio wal solet, ceudod ac atig, ymysg mesurau eraill. Lle mae o leiaf un mesur sylfaenol wedi'i osod, gellir defnyddio'r daleb i helpu i dalu cost ystod o fesurau eilaidd, gan gynnwys gwydr dwbl/triphlyg a drysau allanol sy’n effeithlon o ran ynni.

Dim ond i berchnogion tai a landlordiaid yn Lloegr y mae'r cynllun Grant Cartrefi Gwyrdd ar gael. Rhaid cyfnewid y talebau, a chwblhau'r gwelliannau, erbyn 31 Mawrth 2021.

2.  Camau gan Lywodraeth Cymru

Yn ei llythyr[BJ(CyS|SC1]  at Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau ar 24 Awst 2020, mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig yn nodi nad yw Llywodraeth Cymru:

…yn bwriadu cyflwyno cynllun talebau tebyg yma yng Nghymru ar hyn o bryd. Ers 2011, mae deiliaid tai yng Nghymru wedi elwa ar ein cynlluniau mwy hael sy'n cael eu darparu o dan y Rhaglen Cartrefi Cynnes. Drwy'r rhaglen hon, sydd wedi elwa ar fwy na 55,000 o aelwydydd ers ei lansio, mae cyllid o rhwng £5,000 a £12,000 ar gael ar gyfer mesurau effeithlonrwydd ynni cartref a argymhellir yn dilyn asesiad tŷ cyfan.

Nod Rhaglen Cartrefi CynnesLlywodraeth Cymru yw gwella effeithlonrwydd ynni stoc tai, a helpu i fynd i'r afael â thlodi tanwydd. Mae'r rhaglen yn cynnwys dau brosiect: Nyth ac Arbed. 

Mae cynllun Nyth ‘yn cefnogi mynediad at gyngor a chymorth annibynnol am ddim i helpu deiliaid tai sy’n byw yng Nghymru’. Gall y rheini sy’n bodloni meini prawf cymhwysedd Nyth hefyd gyrchu pecyn o fesurau effeithlonrwydd ynni am ddim, a allai gynnwys boeler nwy newydd, system gwres canolog, inswleiddio neu bympiau gwres ffynhonnell aer.

Gellir crynhoi’r meini prawf ar gyfer gwelliannau ynni cartref rhad ac am ddim o dan gynllun Nyth fel a ganlyn: 

§    Rydych chi'n berchen ar eich cartref neu'n rhentu yn breifat (nid gan awdurdod lleol neu gymdeithas dai); 

§    Mae eich cartref yn ynni aneffeithlon ac yn ddrud i'w gynhesu; ac  

§    Mae gennych chi neu rywun rydych chi'n byw gyda nhw fudd-dal prawf modd NEU â chyflwr anadlol, cylchrediad y gwaed neu iechyd meddwl cronig ac incwm islaw'r trothwyon diffiniedig. 

Mae Arbed yn rhaglen sydd wedi’i hariannu’n rhannol gan Raglen Cartrefi Cynnes (Warm Homes Programme) yr UE. Mae'n gynllun ar sail ardal sy’n golygu bod yn rhaid i ddeiliaid tai fod yn byw mewn ardal gymwys i gael mynediad at Arbed. Caiff yr arian ei roi er mwyn gosod mesurau effeithlonrwydd ynni, er enghraifft cladin ar y waliau allanol a systemau gwres canolog newydd, yn yr ardaloedd hynny. Mae’r cynllun Arbed presennol (Arbed 3) yn cael ei ddarparu gan Arbed am Byth (menter ar y cyd rhwng Everwarm a'r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni) ac mae wedi'i dargedu at feysydd penodol a nodwyd gan Arbed am Byth ac awdurdodau lleol. 

Yn ei llythyr[BJ(CyS|SC2]  at y Pwyllgor Deisebau ar 24 Awst 2020, mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig yn nodi’r canlyno nol:

O dan delerau contractau cyfredol y Rhaglen Cartrefi Cynnes, gwneir darpariaeth ar gyfer gwydr a drysau sy'n defnyddio ynni'n effeithlon. Mae hyn wedi'i gyfyngu i ddarparu gwydro eilaidd neu atal drafftiau o ffenestri a drysau yn unig, os argymhellir hynny fel rhan o'r asesiad tŷ cyfan. Mae cynnwys drysau a ffenestri allanol newydd ar y rhestr o fesurau cymeradwy a ddarperir drwy ein rhaglen yn fater y byddaf yn ymgynghori arno fel rhan o'r ymgynghoriad arfaethedig ar y cynllun drafft newydd i fynd i'r afael â thlodi tanwydd, y disgwyliaf iddo gael ei gyhoeddi erbyn diwedd mis Medi fan bellaf.

3.  Camau gan Senedd Cymru

Ym mis Awst 2018, cyhoeddodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig adroddiad ac argymhellion yn dilyn ei ymchwiliad, Tai Carbon Isel: yr Her Nododd yr adroddiad fod tai yn gyfrifol am bron i 8% o allyriadau nwyon tŷ gwydr Cymru. Dyma Argymhelliad 5:

Dylai Llywodraeth Cymru barhau i ehangu’r cynlluniau ôl-osod presennol o dan Arbed 3 a buddsoddi ynddynt. Dylai’r Grŵp Ymgynghorol ar Ddatgarboneiddio Cartrefi Presennol adrodd i’r Pwyllgor ar ddichonoldeb ôl-osod cartrefi o dan y cynllun hwn yn ôl y ‘math’ o annedd.

Derbyniwyd yr argymhelliad mewn egwyddor gan Lywodraeth Cymru yn ei hymateb.

Yn ddiweddar, cynhaliodd Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig y Senedd ymchwiliad i dlodi tanwydd. Cyhoeddwyd ei adroddiad a'i argymhellion ym mis Ebrill 2020. Roedd rhai o'r argymhellion yn ymwneud â'r Rhaglen Cartrefi Cynnes, gan gynnwys y canlynol:

§    Argymhelliad 10. Rhaid i Lywodraeth Cymru adolygu’r meini prawf cymhwysedd ar gyfer pecynnau gwella effeithlonrwydd ynni am ddim o dan Nyth, gan ystyried y diffiniad newydd o dlodi tanwydd. Rhaid i’r adolygiad ystyried, yn benodol, ehangu’r meini prawf cymhwysedd i gynnwys aelwydydd incwm isel sy’n byw mewn tlodi tanwydd, neu sydd mewn perygl o ddioddef tlodi tanwydd.

§    Argymhelliad 11. Rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod cyllid ar gael drwy’r Rhaglen Cartrefi Clyd i dalu cost gwaith galluogi i aelwydydd na fyddent fel arall yn gallu elwa o welliannau effeithlonrwydd ynni cartref o dan gynlluniau’r llywodraeth.

Derbyniwyd yr argymhelliad mewn egwyddor gan Lywodraeth Cymru yn ei hymateb i adroddiad y Pwyllgor.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth a gynhwysir yn y briff hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw'r briffiau hyn o reidrwydd yn cael eu diweddaru na'u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.

 


 [BJ(CyS|SC1]Add link when available

 [BJ(CyS|SC2]Add link when available.